Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r cynnig i gau gorsaf dân y Porth, sy’n golygu y bydd cymunedau’r Porth 10 i 15 munud o daith i ffwrdd oddi wrth yr injan dân agosaf, a leolir naill ai yn Nhonypandy neu yn Nhrefforest.
Oherwydd y toriadau yn y sector cyhoeddus a’r adolygiad o’r gwasanaeth tân sy’n cael ei gynnal, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cynnig bod gorsaf dân y Porth yn cau’n barhaol. Felly ni fydd gwasanaeth tân yng nghymuned y Porth.
Prif ddeisebydd : Gerwyn James
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014
Nifer y llofnodion: 5 llofnod a’r lein ac mwy na 9,000 llofnod papur.